Mae Tasglu Llawrydd Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar Dawns yng Nghymru. Deborah Light sydd wedi ysgrifennu’r adroddiad gyda mewnbwn eang gan y sector.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys dau faes ffocws:
- Y tangyllido cronig gan CCC ar gyfer Dawns yng Nghymru, fel y gwelir o’r data a’r ystadegau, sy’n cyfateb i, ac a gymhlethir gan, ddiffyg gwybodaeth benodol o’r ffurf gelfyddydol yn CCC er 2012.
- Yr heriau systemig sy’n wynebu artistiaid dawns llawrydd a dulliau strategol (CCC a PCC) o’u cefnogi yn y gwaith o ddatblygu, cynhyrchu a chyflwyno dawns yng Nghymru.
Mae’r adroddiad ar gael yma: https://freelance.wales/dance https://llawrydd.cymru/dawns
Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn amlygu sialensau sy’n gwynebu artistiaid dawns llawrydd a’n darparu mewnwelediad i sefyllfa y sector dawns yng Nghymru. Ein gobaith yw bod yr argymhellion yn sbardun ar gyfer gweithredu a newid.
Dyma ‘Flog Crynodeb’ o holl waith y Tasglu Llawrydd Cymru dros y misoedd diwethaf.
Dwyieithog, a fersiynau Hawdd ei ddarllen, Sain, a BSL (gyda Capsiynau):