Annwyl ddawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr,
Mi rydym wedi gorffen am y fkwyddyn ac am anfon casgliad o’r gwaith arbennig sydd wedi cael ei greu fel rhan o Hadau Ar Led a Groundwork Presents yn ystod ein rhaglen Sefydlogi. Ac fel atgof mae ein dosbarthiadau ar-lein dal yn fyw i chi gael hyfforddi tra bod ni’n codi arian i’r rownd nesaf o ddatblygiad creadigol. Dymunwn seibiant bach clyd a chynnes i chi!
-Zosia, Lara, Jodi ac Elan x
Recordiwyd ymlaen llaw
Mae ystod o arferion a recordiwyd ymlaen llaw ar gael o hyd ar ein gwefan a byddant am y 6 mis nesaf, gan gynnwys gwaith byrfyfyr, techneg gyfoes, bale, symud gyda dylanwad crefft ymladd a sgôr sain awyr agored.
Mwynhewch!
Hadau Ar Led
Daeth Hadau ar Led i’r amlwg oherwydd y clo mawr a rhoddwyd wythnos o ffi i chwe artist weithio ar ddechreuad syniadau, gyda chefnogaeth mentoriaid a rhoi adborth iddynt trwy sgyrsiau ar-lein. Gwelwch eu canlyniadau yma, ar ein blog neu ar ein cyfryngau cymdeithasol. Ein Artistiaid Hadau ar Led cyntaf fel rhan o’n rhaglen flaenorol oedd Kitsch’n’sync Collective, Eeva-Maria Mutka ac Emily Robinson. Artistiaid ein rhaglen Sefydlogi oedd Becky Johnson, Jessie Brett, Jo Shapland, Bakani Pick-up, Gaia Cicolani ac Indigo Tarran.
Groundwork Presents
Yn ychwanegol i’n galwad agored ar gyfer Hadau, mi ydyn ni wedi cefnogi artistiaid trwy Groundwork Presents, a oedd yn wahoddiad agored i artistiaid rannu a neu guradu gwaith. ‘Drychwch…
Diolchiadau lu i Cyngor Celfyddydau Cymru am helpu ni gefnogi dawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr yn ystod yr amser anodd yma.