Mae ein trydydd ac olaf o’r Preswyliad Hadau ar Led wedi dod i ben, sy’n golygu bod yr amser wedi dod i rannu’r creadigaethau cyffrous y mae’r eginblanhigion hyn wedi bod yn eu meithrin!
Byddwn yn rhannu gwaith Jo Shapland’s Embodied Tales of a Hag 1-Corvid, derbynwr blaenorol o Hadau Ar Led, ac yna gwaith Bakani Pick-Up 93 Interlude: Pilgrimage to an Artificial Dimension, Miss B gan Gaia Cicolani ac ymateb Indigo Tarran i ymgyrch ddadleuol y llywodraeth ‘Re-skill, Re-think, Re-boot’.
Dydd Gwener 18fed o Ragfyr
6.30yh
Zoom
Mi fydd gwaith yn cael eu rhyddhau trwy gydol y dydd felly cadwch eich llygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol! A wedyn gallwn gwrdd gyda’r nos i sgwrsio, adlewyrchu a mwynhau llwnc destun bach Nadoligaidd o’ch dewis chi!
Mae’r ffilmiau byrion newydd hyn yn cynrychioli dechreuadau prosiect newydd, Corvid, rhan o fy “Embodied Tales of a Hag” sy’n parhau.
Dros y cyfnod cychwynnol hwn o ymgorffori ymdeimlad o “birdhuman”, a ddylanwadwyd yn arbennig gan y bachau a’r jackdaws sy’n byw yn fy ngardd wyllt, mi fues yn lwcus i dreulio wythnos ar Ynys Enlli lle mwynheais gwmni’r frân big goch a chogfrain (a elwir hefyd yn brain môr) sy’n byw yno. Mae fy ffilmiau yn myfyrio ar y newidiadau y mae fy ymdrechion i ymgorffori’r corvid wedi’u cataleiddio.
Y ffilmiau wedi’i dawnsio a’i golygu gan Jo Shapland
Cerddoriaeth : Dewi Evans
Gwisg : Sophie Miller
Gweithredwr camera : Amy Blackbird
Mentoriaid : Feathers & Yumino Seki
Diolchgarwch dwfn i Chough, Raven, Rook, Jackdaw a Magpie … a hefyd Myrddin … a fy chwiorydd gwrachiadd a’u merched.
Cefnogwyd y greadigaeth trwy Breswyliad Gwasgaredig SEED Groundwork Pro ym mis Tachwedd 2020.
Bydd ei gwaith yn cael ei rannu gyntaf am 9yb ddydd Gwener yr 18fed:
Bakani Pick – Up ’93 Interlude: Pilgrimage to an Alternate Dimension’
Trwy’r gwaith hwn mae Bakani yn edrych ar y corff perfformio Du fel trosiad sy’n cwmpasu gwahaniaeth ac arallrwydd. Mae’r gwaith hwn yn fodd i feddiannu gofod a chwestiynu’r ffordd yr ydym yn cydnabod economeg esthetig trwy’r cyfosodiad o ddefnyddio technegau a beirniadaeth orllewinol, trwy ymchwilio i’r ymreolaeth i gyrff perfformio Du trwy waith byrfyfyr.
Wedi’i ffilmio, dawnsio a’i olygu gan Bakani Pick – Up
Cefnogwyd y greadigaeth trwy Breswyliad Gwasgaredig SEED Groundwork Pro ym mis Tachwedd 2020.
Bydd ei waith yn cael ei rannu gyntaf am 11:00yb dydd Gwener yr 18fed:
Gaia Cicolani Miss B.
Mae’n bryd rhoi ymweliad â Miss B.!
Beth mae hi wedi bod yn ei wneud, tybed?
Ydy hi wedi bod yn ymddwyn fel y dylai dynes weddus?
Sut ddylai “dynes weddus” ymddwyn? Dyma’r cwestiwn allweddol y mae Gaia wedi bod yn ei archwilio gyda’i chymeriad, Miss B.
Mae cymdeithas yn gosod cymaint o gyfyngiadau ar sut y dylai menywod ymddwyn, y syniad o fod yn iawn ac yn berffaith. Ydyn ni’n llai o ddynes os dewiswn i beidio cydymffurfio?
Creuwyd a Chyfarwyddwyd gan Gaia Cicolani, mentora gan Maria Carolina Vieira.
Cefnogwyd y greadigaeth trwy Breswyliad Gwasgaredig SEED Groundwork Pro ym mis Tachwedd 2020.
Bydd ei gwaith yn cael ei rannu gyntaf am 1:00yp dydd Gwener yr 18fed:
Indigo Tarran RE-BOOT
Mewn ymateb i ymgyrch ddadleuol y llywodraeth ‘Re-skill, Re-think, Re-boot’, mae Indigo yn ymchwilio ac yn rhannu eu harchwiliad o lafur llaw fel rhan o’u harfer. Disgrifio’r haenau o wybodaeth sydd wedi ymgolli yn y corff trwy’r amser helaeth a dreulir yn gweithio ac yn dawnsio, ac yn gweithio ar ddawnsio. Cwestiynu’r corff egoless, edrych ar y corff fel arf.
Wedi’i ffilmio a’i olygu gan Indigo Tarran, mentora gan Eddie Ladd
Cyfraniadau Synau gan Piers Patridge
Cefnogwyd y greadigaeth trwy Breswyliad Gwasgaredig SEED Groundwork Pro ym mis Tachwedd 2020.
Bydd ei gwaith yn cael ei rannu am 3yp dydd Gwener yr 18fed
Dawnsiau na ddigwyddodd: Podcast Sgyrsiau rhwng Artistiaid Mae’r ail bennod bellach yn Fyw! Y Gyfres Ardd: Lara Ward Cyfres o dair podcast, sgyrsiau rhwng artistiaid benywaidd nag ydw i wedi gallu gweithio â nhw, yn ystod y cyfnod clo. Nod y gyfres hon yw cwestiynu ble mae artistiaid wedi dod o hyd i ffocws a…
Annwyl ddawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr, Mi rydym wedi gorffen am y fkwyddyn ac am anfon casgliad o’r gwaith arbennig sydd wedi cael ei greu fel rhan o Hadau Ar Led a Groundwork Presents yn ystod ein rhaglen Sefydlogi. Ac fel atgof mae ein dosbarthiadau ar-lein dal yn fyw i chi gael hyfforddi tra bod ni’n…