Bydd dosbarth Kim yn ymarfer hwyliog, llyfn ac agored, cyfle i gael i mewn i’n cyrff a dod at ein gilydd i ddawnsio. Dosbarth awr o hyd bydd hi, yn cymryd lle rhwng y dodrefn yng nghysur ein cartrefi ein hunain! Gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau cyfoes a chymalau llyfn bydd y pwyslais ar fwynhau ac ar y teimlad o ryddhad drwy’r corff.
Mwynhewch!
Trefn rhoddion sydd gan Ymarfer Corfforol Byw. Os oes gennych incwm ar hyn o bryd mae croeso i chi wneud rhodd ond dydyn ni ddim yn disgwyl taliad gan unigolion llawrydd sydd a’i hincwm yn dioddef o achos COFID 19.
Os yw broblem mynediad oherwydd e.e. anabledd yn rhwystr i chi allu ymuno â Dosbarthiadau Groundwork, cysylltwch â groundworkprocardiff@gmail.com er mwyn trafod eich gofynion yn gyfrinachol.
Dawnsiau na ddigwyddodd: Podcast Sgyrsiau rhwng Artistiaid Mae’r ail bennod bellach yn Fyw! Y Gyfres Ardd: Lara Ward Cyfres o dair podcast, sgyrsiau rhwng artistiaid benywaidd nag ydw i wedi gallu gweithio â nhw, yn ystod y cyfnod clo. Nod y gyfres hon yw cwestiynu ble mae artistiaid wedi dod o hyd i ffocws a…
Annwyl ddawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr, Mi rydym wedi gorffen am y fkwyddyn ac am anfon casgliad o’r gwaith arbennig sydd wedi cael ei greu fel rhan o Hadau Ar Led a Groundwork Presents yn ystod ein rhaglen Sefydlogi. Ac fel atgof mae ein dosbarthiadau ar-lein dal yn fyw i chi gael hyfforddi tra bod ni’n…