Mae’r manylion hyn ond yn Saesneg. Y’ ni’n cyfieithu fel lladd nadredd ar y cyfan.

Pwyswch ar “Darllen rhagor” am fanylion am ddosbarthiadau Charlie Morrissey.

Mae gennym gronfa i gynorthwyo artistiaid o Gymru i dalu am deithio, llety, gwarchod plant, hwyluso mynediad i’r anabl neu unrhyw gostiau eraill.

Ni allwn wasgu pawb yn ddi-hyd i mewn i ddosbarth. Cyntaf i’r felin felly. Talwch £10 ar y dydd Mawrth i sicrhau eich lle am yr wythnos, neu dewch i ddosbarth am £4. Gellir cadw pedwar lle o flaen llaw (os ydych yn teithio o bell er enghraifft, neu angen cymorth neu’n gorfod trefnu gwarchod plant). Cysylltwch â ni i gadw eich lle.