Mae dosbarth Krystal yn sesiwn bale ar gyfer dawnswyr sy’n dymuno cynnal a datblygu eu techneg bale. Trwy gydol y sesiwn, bydd Krystal yn egluro pob ymarfer ac yn rhoi ychydig o bethau i feddwl amdanynt er mwyn sicrhau techneg cywir. Sicrhewch eich bod yn gwisgo dillad cyfforddus, eich bod mewn amgylchedd diogel a chlir gyda llif aer da, a bod gennych ddŵr gerllaw i sicrhau eich bod wedi hydradu’n dda.
Trefn rhoddion sydd gan Ymarfer Corfforol Byw. Os oes gennych incwm ar hyn o bryd mae croeso i chi wneud rhodd ond dydyn ni ddim yn disgwyl taliad gan unigolion llawrydd sydd a’i hincwm yn dioddef o achos COFID 19.
Os yw broblem mynediad oherwydd e.e. anabledd yn rhwystr i chi allu ymuno â Dosbarthiadau Groundwork, cysylltwch â groundworkprocardiff@gmail.com er mwyn trafod eich gofynion yn gyfrinachol.
Annwyl ddawnswyr, symudwyr a gwneuthurwyr, Mi rydym wedi gorffen am y fkwyddyn ac am anfon casgliad o’r gwaith arbennig sydd wedi cael ei greu fel rhan o Hadau Ar Led a Groundwork Presents yn ystod ein rhaglen Sefydlogi. Ac fel atgof mae ein dosbarthiadau ar-lein dal yn fyw i chi gael hyfforddi tra bod ni’n…
Becky Johnson Artist Hadau ar Led Medi 2020 Didi’s Cookbook Mae Didi’s Cookbook yn archwilio syniadau yn ymwneud â llyfr coginio a ysgrifennodd fy Nhaid i mi. Mae’r llyfr bywgraffyddol hwn wedi’i lenwi â ryseitiau, anecdotau ac awgrymiadau o bob cwr o’r byd. Mae’r darn yn archwilio nid yn unig sut rydym yn gweithio gyda…