Dawnsiau na ddigwyddodd: Podcast Sgyrsiau rhwng Artistiaid
Mae’r bennod gyntaf yn fyw!
Cyfres o dair podcast, sgyrsiau rhwng artistiaid benywaidd nag ydw i wedi gallu gweithio â nhw, yn ystod y cyfnod clo.
Nod y gyfres hon yw cwestiynu ble mae artistiaid wedi dod o hyd i ffocws a pha sifftiau sydd gennym ac yr ydym yn eu gwneud yn yr amser hwn lle mae llawer o gynyrchiadau wedi’u cynllunio a chydweithrediadau posibl wedi’u gohirio.
Pennod 1: Caroline Sabin – Yn y bennod gyntaf o’r sgyrsiau wedi’u golygu, dw i’n siarad efo Caroline Sabin, o Gaerdydd, yn Thompson Park, Caerdydd.
Ymunwch â ni wrth i ni lywio adrannau o sgwrs sy’n eistedd yn rhywle yng nghanol ein bywydau personol a phroffesiynol. Wrth drafod y cynyrchiadau y byddem wedi bod yn gweithio arnynt gyda’n gilydd, ein strategaethau ymdopi mewn ymateb i’r cyfnod hwn o absenoldeb ar y cyd, meistroli’r grefft o ‘ymarfer eistedd’ myfyriol, darganfod Feldenkrais, ein datblygiadau personol a’n syniadau am y celf nad ydym eto i’w gwneud.
*Recordiwyd Medi y 15ed 2020.
Gwrandwch yma
Y Gyfres Ardd: Sgyrsiau Artist efo Caroline Sabin
Trawsgrifiad Sgwrs yma
Yn yr ail bennod o’r podcast fyddaf yn siarad efo Jo Fong.
Dolenni:
www.carolinesabin.co.uk
www.laraward.co.uk
www.digitalflesh.co.uk