Bwrsariaethau Gofal Creadigol
Oes agwedd o’ch gwaith hoffech chi gael cefnogaeth ynddi?
Oes rhywun y gallai sgwrs â fe/hi fod yn gefnogol yn hyn o beth?
Mae ein Bwrsariaethau Gofal Creadigol yn gronfeydd meicro i’ch galluogi i gael hyd i gefnogaeth. Efallai’ch bod chi am ddatblygu eich arferion dysgu, angen cyngor gan gynhyrchydd, mentora creadigol neu…? Dywedwch wrthon ni beth sydd eisiau arnoch chi.
Os nad ydych chi’n siŵr pwy yw’r person iawn i roi cymorth gallwn ni hefyd roi cyngor ar hynny.
Rydyn ni wedi rhannu’r cyfan yn ddarnau o £50 sydd i’w gweld gennym ni fel sgwrs hyd awr lle rydych chi’ch dau, chi a’r mentor yn cyfathrebu, ill dau yn derbyn £25 am eich amser. Gallwch wneud cais am faint fynnwch chi o sgyrsiau, ond i chi gofio bod uchafswm y cyfan bob mis gennym yn £200.
Mae cynllun Bwrsariaethau Gofal Creadigol ar agor o Awst i Ragfyr 2020.
Diolch o galon i Gyngor y Celfyddydau am hyrwyddo’r gronfa.