Mae Groundwork yn sefydliad sydd ag artistiaid yn ei harwain a ffurfwyd yn 2015 gan grwp o artistiaid dawns annibynnol oedd yn awchu am hyfforddiant a mewnbwn creadigol ac yn ymateb i ddiffyg yn y darpariaeth. Mae’r sefydliad yn dal i gefnogi’r gymuned ddawns sydd bellach yn gydnabyddiedig fel rhan dra-phwysig o adeiladwaith fregus dawnsio Cymru.
Ein tîm yn cynnwys; Lara Ward, Zosia Jo, Elan Elidyr a Jodi-Ann Nicholson, yn gweithio ar lefel gyfartal ac yn gwneud penderfyniadau ar y cyd tra’n ysgwyddo cyfrifoldeb personol dros agweddau penodol o’n darpariaeth a thasgau sy’n ymwneud â chyflawni ein rhaglen. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaethau creadigol â sefydliadau gan gynnwys Chapter, NDCWales, Rubicon, Prifysgol De Cymru, Gŵyl Dawns Caerdydd a Dawns i Bawb er mwyn meithrin rhwydwaith gefnogol ar gyfer dawns. Ein nôd yw ymateb yn barhaus i anghenion y gymuned rydym yn ei chefnogi ac rydyn ni’n rhan ohoni.
Cyflogir pob aelod o’r tim i weithio hanner diwrnod yr wythnos i guradu, cyfwyno, rheoli a marchnata’r raglen. Hefyd mae gennym 9 diwrnod ar draws y tîm ar gyfer datblygu busnes dros y 6 mis nesaf – byddwn ni’n denfyddio hwn i graffu ar ein gweithredu a’n rheolaeth gan nad ydyn nhw wedi symud law yn llaw â datblygiadau yn ein rhaglen, ac nad ydynt yn gynaliadwy wrth symud ymlaen.
Gyda’n grant Sefydlogi yn ei le, rydyn ni’n lansio rhaglen y gobeithiwn bydd yn dod âr gymuned ddawns yng Nghymru at ei gilydd ac yn ein cadw i symud mewn ffordd syn gryf ac yn hyblyg yn wyneb y newid cymdeithasol diwylliannol ac economaidd sy’n digwydd o’n cwmpas. Rydyn ni’n cydnabod nad ydyn ni wedi cyflawni llawr yn ddigon cyflym o ran ein hamrywiaeth, dwyieithrwydd a mynediad ac rydyn ni’n mynd i’r afael â hyn. Rydyn ni wrthi’n recriwtio dau aelod newydd i’r tîm i’n helpu i guradu a chyflawni’r rhaglen hon (dolen i alw allan). Rydyn ni wedi ymrwymo i gael un o’r rhain yn siaradwr Cymraeg ac un yn berson o liw, o dras Asiaidd neu dreftadaeth ddeuol.
Trwy’r rhaglen hon rydyn ni: yn bwriadu creu diddordeb a gobeithio cefnogi ystod fwy amrywiol o artistiaid dawns, cyfathrebu a darparu elfennau o’r rhaglen yn ddwyieithog, cynyddu ein cefnogaeth a’n cysylltiad ag artistiaid ledled Cymru i wneud yr hyn y cynigiwn yn fwy hygyrch.
Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth Groundwork yw dod ag artistiaid dawns annibynnol Cymru at ei gilydd, eu cefnogi nhw, a’u maethu. Ein gweledigaeth yw galluogi cymuned o ddawnswyr, symudwyr a chrëwyr i gyflawni eu potensial celfyddydol.
Rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu a darganfod celfyddydol gan gynnwys dosbarthiadau, gweithdai, cynnal trafodaethau,
cyfnodau preswyl, mentora a rhannu arfer.
Hoffai Groundwork Pro ymestyn diolch o waelod calon i’r rhai a gefnogodd y rhaglen ar draws y blynyddoedd. Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Coreo Cymru, Chapter, Proper Design, Rubicon, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Met Caerdydd, Theatr Genedlaethol Cymru, Prifysgol De Cymru, Gŵyl Ddawns Caerdydd a Tŷ Cerdd.